Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu, mewn perthynas â Chymru, ddarpariaethau sy'n ymwneud â chydnabyddiaeth gilyddol o gymwysterau proffesiynol sydd wedi eu cynnwys mewn cytundeb gyda’r Swistir a lofnodwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Mehefin 2023 (“Cytundeb y Swistir”).
Gwnaeth Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 (“Rheoliadau 2023”) weithredu, mewn perthynas â Chymru, ddarpariaethau yn ymwneud â chydnabyddiaeth gilyddol o gymwysterau proffesiynol a oedd wedi’u cynnwys mewn cytundeb masnach rydd gyda Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy, a lofnodwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2021.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2023 er mwyn estyn eu cymhwysiad i’r Swistir, diwygio deddfwriaeth arall at ddiben gweithredu Cytundeb y Swistir a chywiro mân wallau yn Rheoliadau 2023.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad (EU) Rhif 517/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Ebrill 2014 ar nwyon tŷ gwydr wedi eu fflworineiddio a Rheoliadau Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn 2015, y mae'r ddau ohonynt yn estyn ac yn gymwys y tu hwnt i Gymru a Lloegr i Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Felly, gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth sy'n cadarnhau cymhwysiad tiriogaethol y diwygiadau hynny, o ystyried y gall y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn estyn i Gymru a Lloegr yn unig (ac yn gymwys mewn perthynas â Chymru).
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r Rheoliadau hyn yn nodi:
“O dan delerau Cytundeb y Swistir, rhaid i bob parti gael mesurau ar waith i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'i delerau erbyn 1 Ionawr 2025. Felly, bydd Rheoliadau Cymru 2024 yn dod i rym ar 1 Ionawr 2025 i sicrhau bod gan y rheoleiddwyr Cymreig ddyletswydd statudol glir i gydymffurfio â gofynion Cytundeb y Swistir o'r dyddiad hwnnw.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r pwynt adrodd technegol.
Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 9 Rhagfyr 2024 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.